Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth, help neu gyngor am weithgareddau hamdden i blant neu ofal plant yng Nghaerdydd, ond nad ydych yn gwybod lle i ddechrau, rydych wedi dod i’r lle cywir.
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig cyngor a gwybodaeth am ddim am amrywiaeth eang o opsiynau o ran gofal plant a gweithgareddau i blant rhwng 0-20 oed, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am feithrinfeydd, gofalwyr plant, clybiau y tu allan i’r ysgol, grwpiau chwarae a grwpiau rhieni a phlant bach. Rydym hefyd yn cynnig help a chyngor ar dalu am ofal plant a gweithio ym maes gofal plant.