
Beth yw’r Mynegai?
Y Mynegai yw cofrestr wirfoddol Caerdydd a Bro Morgannwg o blant a phobl ifanc sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Rhydd ddarlun cliriach o faint o blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol sydd. Gymorth Grant Teuluoedd Yn Gyntaf, yn ein galluogi i gydweithio ag asiantaethau eraill i helpu i gydlynu gwasanaethau yn well.
Nod y Mynegai yw cynnig gwybodaeth i:
- Deuluoedd – gan roi’r newyddion diweddaraf am wasanaethau, cymorth a gweithgareddau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae hefyd yn bwynt cyswllt i deuluoedd drafod eu hanghenion.
- Gweithwyr Proffesiynol – yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr proffesiynol am anghenion plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol er mwyn cynllunio gwasanaethau a gwella mynediad i wasanaethau a chymorth.
- Sefydliadau – hyrwyddo’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael.
Pwy all gofrestru â’r Mynegai?
Gallwch gofrestru â’r Mynegai os ydych yn:
- Rhiant/gofalwr i blentyn neu berson ifanc 0 – 18 oed ag anableddau neu anghenion ychwanegol
- Gweithio’n broffesiynol gyda phlant neu bobl ifanc 0 – 18 oed ag anableddau neu anghenion ychwanegol
Er mwyn bod ar y Mynegai, rhaid i blentyn neu berson ifanc fod yn:
- 0 – 18 oed
- Ag anabledd wedi’i ddiagnosio, sydd wrthi’n cael ei ddiagnosio neu sydd ag anghenion ychwanegol parhaus a gadarnhawyd
Pam cofrestru â’r Mynegai?
Ar ôl cofrestr â’r Mynegai, cewch:
- Y Mynegai – y cylchlythyr a anfonir bob 3 mis, sy’n llawn gwybodaeth am wasanaethau, cymorth a gweithgareddau yng Nghaerdydd a’r Fro.
- eNewyddion Y Mynegai – e-byst rheolaidd sy’n cynnig gwybodaeth am unrhyw weithgareddau a digwyddiadau a gynhelir rhwng rhifynnau’r cylchlythyr.
Bydd cofrestru hefyd yn golygu eich bod yn helpu i ddylanwadu ar y math o wasanaethau sy’n cael eu cynnig a’u datblygu.
Sut i gofrestru â’r Mynegai?
P’un ai a ydych yn rhiant, yn ofalwr neu’n weithiwr proffesiynol gallwch gofrestru plentyn i’r Mynegai drwy gwblhau ffurflen gofrestru.
Llenwch y ffurflen gofrestru isod:
Ffurflen Gofrestru
Ffurflen Gofrestru Ar-lein
Os ydych yn weithiwr proffesiynol, a hoffem gael ei ychwanegu at restr bostio Y Mynegai, anfonwch e-bost:
Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd
Dewis Cymru yw Y man ar gyfer gwybodaeth lles yng Ngymru.
Mae gennym gwybodaeth sy’n gallu’ch helpu i feddwl am beth sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol sy’n gallu helpu!
Cysylltu â Ni
I gael gwybodaeth am wasanaethau a chymorth, neu I gyflwyno erthygl ar gyfer y rhifyn nesaf o’r cylchlythyr, cystlltwch â:
Swyddog Mynegai Rhanbarthol
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Ystafell Penfro
Y Ganolfan Gynadledda
East Moors Road
Caerdydd
CF24 5RR
Ffôn: (029) 2035 1700 / 07974 814 635
E-bost: MynegaiAnabledd@caerdydd.gov.uk